• Clwb Gymnasteg Dreigiau'r Dyffryn
Cymraeg English

Clwb Gymnasteg Dreigiau'r Dyffryn

Mae Gwyn & Esther wedi trosglwyddo Gwynjim i ddwylo Sophie Pipe. Gan weithio’n agos gyda Gymnasteg Cymru, mae Sophie yn edrych ymlaen at ddechrau hyfforddi eto ac yn gobeithio y bydd rhieni a gymnastwyr yn parhau i gefnogi’r clwb yn ei amcanion i gynnig menter gymdeithasol, leol, gymunedol i gymnastwyr ym Methesda a’r pentrefi cyfagos.

Hoffai Sophie ddiolch i Gwyn & Esther Owen a'r rhieni i gyd a roddodd gymaint o waith i sefydlu a rhedeg y clwb dros y 8 mlynedd diwethaf. Mae Sophie yn teimlo’n freintiedig iawn i gael y cyfle anhygoel hwn i gymryd y clwb ffantastig hwn drosodd.

Bydd y clwb yn gweithredu gan ddilyn yr un fformiwla ddibynadwy o "fenter gymunedol nid er elw", gan ddysgu gymnasteg yn bennaf trwy'r Gymraeg.

Clwb Gymnasteg Dreigiau'r Dyffryn (yn masnachu fel Dreigiau'r Dyffryn Ltd.)

11/08/20